Nawr mae angen i ni gael gwybod beth yw'ch barn chi ar y cynllun er mwyn i ni allu symud ymlaen gyda'n gilydd ac adeiladu gwell dyfodol i bawb yma yn CnPT!
Ond peidiwch â phryderu os nad oes gennych chi'r amser i ddarllen yr holl beth; darllenwch y daflen gyfleus yma fydd yn rhoi trosolwg i chi o'n cynlluniau.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd ychydig funudau i ddweud eich dweud.
Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Mawrth 1 Chwefror 2022
Bydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif.
Mae hi’n Wythnos Croeso i Dy Bleidlais!
Dechreuwch y sgwrs am ddemocratiaeth gyda phobl ifanc drwy gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.
Oeddet ti’n gwybod dy fod yn gallu pleidleisio yn etholiadau cynghorau Cymru pan fyddi di’n 16 oed?
Ac a oeddet ti’n gwybod bod etholiadau cynghorau yng Nghymru ar 5 Mai?
Oes angen help arnoch gyda chostau tanwydd y gaeaf hwn? O 13 Rhagfyr 2021 tan 18 Chwefror 2022, mae'n bosibl y bydd modd ichi hawlio taliad untro o £100 er mwyn rhoi cymorth tuag at dalu eich biliau tanwydd gaeaf. Cewch wybod rhagor yma.
Gofalwr maeth yn rhannu ei 30 mlynedd o brofiad i ysbrydoli rhagor o bobl i faethu yng Nghymru
Yn ôl ym 1991, roedd Annie Lewis yn briod, roedd ganddi ei phlant ei hun, dau fachgen saith ac wyth oed, ac roedd yn gweithio fel pen-cogydd, pan gysylltodd â'i hawdurdod lleol i ddod yn ofalwr maeth.
Ond mae stori Annie yn dechrau llawer yn gynharach na hynny, pan oedd hi'n arddegwr anniddig mewn gofal ei hun...
Am ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i https://cnpt.maethucymru.llyw.cymru neu ffoniwch (01639) 685866 i siarad ag aelod o'r tîm.