Haf o Hwyl 😎⛱️

Dyma rai gweithgareddau rhad ac am ddim neu gost isel y gall plant a theuluoedd eu mwynhau dros yr wythnos i ddod fel rhan o Haf o Hwyl CNPT!

🏹 Camwch yn ôl drwy amser gyda’r Marchogion a’r Saethyddion Canoloesol – penwythnos o saethu bwa a saeth, ymladd ac arddangosfeydd cleddyfau. Holwch gwestiynau, dysgwch sut i drin picell a gwisgo arfwisg, dysgwch am grefftau llaw a bwyd y cyfnod. Diwrnod mas yn llawn o hwyl yn Parc Gwledig Margam

🏊‍♂️ Haf o Hwyl Celtic Leisure – dewch i gymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog i’ch helpu i gadw’n heini, gan gynnwys diwrnodau chwaraeon o bob math, sesiynau offer gwynt yn y pwll, gwersylloedd chwaraeon a llawer mwy. Archebwch drwy ffonio 08000 43 43 43

🧱 Clybiau Lego – mae nifer o’n Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot yn cynnal clybiau Lego neu ddigwyddiadau sy’n cynnwys adeiladu Lego a gweithgareddau eraill. Fe’u cynhelir mewn llyfrgelloedd ledled CNPT, a gellir gweld manylion ar y dudalen Beth Sy’n Digwydd y mae dolen iddi yn y sylwadau.

📖 Her Ddarllen yr Haf – rhowch gynnig ar Her Ddarllen yr Haf eleni! Bod yn greadigol yw thema eleni. Cerddoriaeth, modelu â sbwriel, ffotograffiaeth, dawnsio. Ysgrifenni stori… mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw.

Penodi Frances O'Brien yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi penodi Frances O'Brien yn Brif Swyddog Gweithredol newydd i olynu Karen Jones a gyhoeddodd ei phenderfyniad i ymddeol yn gynharach eleni.

Darllenwch mwy.

🎉🚧 Newyddion Mawr i Barc Gwledig Ystâd y Gnoll!

Mae gwaith ar fin dechrau ar ein prosiect uchelgeisiol gwerth £12m i foderneiddio cyfleusterau ymwelwyr ac adfer nodweddion hanesyddol ym Mharc Gwledig poblogaidd Gnoll Estate Country Park! 🌳

Bydd y trawsnewid anhygoel hwn, a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cwm Nedd, yn cymryd tua blwyddyn i’w gwblhau a’i nod yw gwella’r parc ar gyfer ymwelwyr rheolaidd tra’n denu rhai newydd o bell ac agos. Dyma beth allwch chi edrych ymlaen ato:

Dymchwel y ganolfan ymwelwyr bresennol
Canolfan ymwelwyr ddeulawr newydd sbon, gwbl hygyrch gyda:


•  Caffi modern
•  Golygfeydd balconi syfrdanol sy'n wynebu'r de ar draws y llyn
•  Cyfleusterau digwyddiadau, cyfarfodydd a chynadledda
•  Man chwarae meddal pwrpasol i blant
•  Maes chwarae antur coetir newydd cyffrous i deuluoedd
•  Atgyfnerthu ac atgyweirio adfeilion Tŷ Gnoll
•  Adfer Rhaeadrau ysblennydd a hanesyddol y parc
•  Gosodiadau gwybodaeth a dehongli yn manylu ar hanes cyfoethog y parc
•  Estyniadau i lwybrau hamdden a cherdded gyda phont newydd yn cysylltu â 57 hectar o dir Coed Cadw Fferm Brynau

Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys tirlunio, parcio, a gwelliannau eraill. Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, bydd gennym gyfleusterau arlwyo dros dro a thoiledau yn eu lle i’ch croesawu. Bydd y digwyddiad Parkrun poblogaidd yn parhau gyda llwybr amgen, a bydd llwybr dros dro yn sicrhau y gall cerddwyr barhau i fwynhau llwybr cylchol o amgylch y llyn.

Bydd Pond Cottage hefyd yn cael ei uwchraddio’n sylweddol, gan gynnig llety dros nos syfrdanol i hyd at chwech o bobl mewn tair ystafell wely ddwbl wedi’u haddurno’n hyfryd gyda golygfeydd godidog dros y parc.

Darganfod mwy 📽️

Mae Parc Gwledig Coedwig Craig Gwladus yn chwilio am Swyddog Marchnata a Menter! 📣

Mae’r safle’n gyfuniad hyfryd o lethrau coediog, creigiau agored, cynefinoedd amrywiol ar gyfer bywyd gwyllt a threftadaeth lofaol.

Prif ddyletswyddau’r swydd:

🟢 Cynllunio, cyflwyno a monitro marchnata a chyfathrebu ar draws cyfryngau darlledu, print, digidol a chymdeithasol gan hybu gweithgareddau rhad ac am ddim a rhai y telir amdanynt (gan gynnwys cyfleoedd i wirfoddolwyr) a mentrau yn y parc.
🟢 Gweithio gyda’r Tîm Prosiect i gynllunio, datblygu a marchnata mentrau yn y parc.
🟢 Casglu, cydlynu a chofnodi data monitro’r prosiect.
🟢 Cefnogi’r Rheolwr Prosiect, y Parcmon a’r Hyfforddai i ddarparu’r prosiect a ariennir gan grant.
🟢 Unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n cyd-fynd â graddfa’r swydd.

Os credwch fod gennych chi’r profiad a'r brwdfrydedd angenrheidiol ar gyfer y swydd hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Lisa Kirman (Rheolwr Prosiect Craig Gwladus) ar

📞 07815 469938
📧 craig.gwladus@npt.gov.uk

Newidiadau arfaethedig Tata Steel yn effeithio arnoch chi?

Gall ein hyb gwybodaeth eich helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi yn y cyfnod anodd hwn:

• Cyfleoedd i ailhyfforddi
• Cyngor ar yrfaoedd
• Help gyda biliau'r cartref
• Cyngor a chymorth ar gyfer dechrau busnes

Ewch i  www.npt.gov.uk/TataTransition


Mae'r hwb ar-lein yn rhan o ystod o gymorth sy'n cael ei gydgysylltu gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot a'i ddarparu gan sefydliadau partner ledled y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb a sesiynau galw heibio ar gyfer busnesau a phobl yr effeithir arnynt.

Rydym am gael eich barn ynghylch dyfodol trafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru. 🚌🚉🦽🚶🚲

Mae achos dros newid a ddatblygwyd ar gyfer cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a fydd yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe bellach ar agor ar gyfer adborth gan y cyhoedd tan 26 Awst.

Mae nodau'r cynllun yn cynnwys gwella llwybrau cerdded a beicio i wasanaethau lleol, yn ogystal â symud oddi wrth ddefnyddio ceir preifat i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Bydd fforddadwyedd wrth wraidd y cynllun i sicrhau bod mynediad at drafnidiaeth ar gael i bawb. Bydd cynlluniau Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru ar gyfer rhwydwaith bysus a threnau integredig yn parhau i gael eu datblygu ochr yn ochr â chyflwyno’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn y dyfodol.

Ewch i cjcsouthwest.wales am ragor o wybodaeth a'r cyfle i roi adborth.

E-bostiwch regional.transport@abertawe.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Mae copïau papur o’r ffurflen adborth a'r deunyddiau ymgynghori ar gael yn:

Castell-nedd Port Talbot: Canolfan Ddinesig Castell-nedd; Canolfan Ddinesig Port Talbot; Y Ceiau.
Sir Gaerfyrddin: Rhydaman

Cyfleoedd Gyrfa Gwaith Cymdeithasol a Gweithwyr Cefnogi!

Nod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw sicrhau fod pob plentyn lleol yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, bod preswylwyr yn mwynhau bywydau maith ac iach gyda swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda, a bod yr ardal yn dod yn gyrchfan o ddewis ar gyfer byw, gweithio a hamddena.

Mae’r amcanion llesiant uchelgeisiol hyn wrth galon Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2024-2027, Gweithio tuag at CNPT mwy ffyniannus, tecach a gwyrddach.

Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni.

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i www.npt.gov.uk/swyddi

Cysylltwch â ni!

Rhannwch y rhifyn hwn o Newyddion CnPT!