Penodwyd y Prif Weithredwr newydd, a oedd cyn hyn yn Brif Swyddog Cymunedau a Lle gyda Chyngor Sir Mynwy, yn ffurfiol ynghynt eleni.
Gan siarad yn ystod ei diwrnod cyntaf yn y swydd, dydd Llun, 18 Tachwedd 2024, meddai hi: “Mae dechrau ar swydd Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn anrhydedd go iawn, a dyma gyfle mwyaf fy mywyd gwaith.
“Mae hefyd yn gyfle i ddychwelyd adref i mi a’m teulu. Gan i mi gael fy magu yn yr ardal hon, mae fy nghariad a’m hangerdd dros bobl a lleoedd y fwrdeistref sirol amrywiol hon yn fy llenwi â balchder. Mae fy malchder hefyd yn cynnwys ein hanes, ein treftadaeth a’n llwyddiannau, yn ogystal â’n potensial a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol.
“Hoffwn dalu teyrnged i Karen Jones am y cyfraniad a’r gwahaniaeth a wnaeth hi dros breswylwyr a staff dros y pedair blynedd ddiwethaf. Fe arweiniodd Karen yr awdurdod drwy adegau eithriadol o heriol.
“Ein nod yw gwneud yr ardal hon y gorau y gall fod er mwyn magu teuluoedd iach a hapus, sicrhau ffyniant, cyfle, a pharch at bawb. Lle yr ydyn ni oll yn falch o ddweud rydyn ni’n byw ynddo, ac yn dod ohono.