Mae’r Nadolig yng Nghastell-nedd Port Talbot🎄

Ewch i’n tudalen Nadolig i gael gwybodaeth ddefnyddiol a phwysig am y Nadolig yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys;

🗑️ Casgliadau biniau ac ailgylchu
🎅 Digwyddiadau Nadolig
⏰ Oriau agor y cyngor
📚 Dyddiadau tymhorau ysgol
🎶 A mwy...

Cewch yr wybodaeth yma: www.npt.gov.uk/Nadolig

Rydym yn awyddus i glywed barn plant a phobl ifanc leol ar gyfleoedd a gweithgareddau chwarae y tu allan i'r ysgol 🛝🎾⚽🛹

Gallai hyn gynnwys eu barn ar weithgareddau dan do ac awyr agored fel clybiau chwaraeon, clybiau ieuenctid, mannau gwyrdd, caeau chwaraeon, parciau sglefrio, meysydd chwarae ac  unrhyw leoedd eraill y bydd plant a phobl ifanc yn mynd iddynt yn eu hamser sbâr. 

Bydd hyn yn ein helpu i ddeall pa fannau a chyfleoedd chwarae sy'n gweithio'n dda a pha welliannau y bydd angen eu gwneud.

Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gofyn i rieni a gofalwyr helpu eu plant i gwblhau arolwg byr:

Arolwg 1 – ar gyfer plant 6 a 7 oed

Arolwg 2 – ar gyfer plant a phobl ifanc 8 – 11 oed

Arolwg 3 – ar gyfer pobl ifanc sydd yn yr ysgol uwchradd neu'r coleg

Hefyd, caiff raffl ei chynnal lle y bydd cyfle i bawb sy'n cwblhau'r arolwg ennill talebau Amazon!

Byddem wir yn croesawu safbwyntiau ac adborth unrhyw berson ifanc ynglŷn â'r cyfleoedd a gweithgareddau chwarae sydd ar gael cyn dydd Gwener 24 Ionawr 2025. 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg pwysig hwn, cysylltwch â Matthew Jenkins, sef ein Harweinydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, yn: M.Jenkins2@npt.gov.uk.

Dweud Eich Dweud 📢🗺️

Byddai’r Cyngor yn croesawu eich barn am Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu  Lleol Amnewid CDLlA ac mae’n rhoi cyfle i chi gael dweud eich dweud ar ddyfodol Castell-nedd Port Talbot. 

Bydd y CDLlA yn dyrannu tir ar gyfer cartrefi a chyflogaeth ac yn diogelu amgylchedd unigryw CnPT. Bydd y CDLlA, ar ôl ei fabwysiadu, yn disodli'r CDLl sydd wedi’i fabwysiadu ar hyn o bryd a dyma fydd y sylfaen ar gyfer penderfyniadau cynllunio o ran defnydd tir. 

Mae ymgynghoriad 8 wythnos bellach yn fyw rhwng hanner dydd Ddydd Iau 12 Rhagfyr 2024 a hanner dydd Ddydd Iau 6 Chwefror 2025. 

Sut i gyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir:

🖥️Ar-lein – gan ddefnyddio Porth Ymgynghori CDLl. Byddai’r Cyngor yn annog bod pob ymateb ar y Strategaeth a Ffefrir yn cael ei gyflwyno yn y modd hwn. 

📧E-bost – gan ddefnyddio ffurflen sylwadau sydd ar gael ar ein gwefan. Mae modd e-bostio ffurflenni atom yn ldp@npt.gov.uk. 

✉️Drwy’r post – Mae modd argraffu’r ffurflen sylwadau. Dylech bostio unrhyw ffurflenni sylwadau atom yn: Yr Adran Polisi Cynllunio, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Castell-nedd SA11 2GG

Dysgwch fwy a rhannwch eich barn yma

Mae cronfa Grantiau Trydydd Sector Castell-nedd Port Talbot bellach ar agor ar gyfer ceisiadau blwyddyn ariannol 2025/2026.

Mae’r cyngor yn cynnig cyfle i gyrff trydydd sector wneud cais am gyllid 12 mis i gyflwyno gweithgareddau, prosiectau cymunedol, neu i dalu am gostau craidd.
  
Y cyfanswm sydd ar gael yw £239,000 a gofynnir i sefydliadau ystyried yn ofalus y swm y byddan nhw’n gwneud cais amdano (gan y bydd angen i’r cyfanswm gael ei rannu ar draws sawl sefydliad sy’n llwyddiannus). 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 24 Ionawr 2025.

Sut mae cyflwyno cais: www.npt.gov.uk/grantiaur-trydydd-sector

Blwyddyn Newydd, Dechrau Newydd

Os ydych chi'n chwilio am gyfeiriad newydd yn 2025, gall ein gwasanaeth Cyflogadwyedd CnPT eich helpu chi.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.npt.gov.uk/NPTemployability a dilynwch Cyflogadwyedd CnPT ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi wedi colli eich swydd yn Tata Steel, neu mewn cwmni y mae'r newidiadau yn y gwaith dur wedi effeithio arno, mae cymorth a chyllid arbennig ar gael i'ch helpu chi.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.npt.gov.uk/TataTransition

Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni.

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i www.npt.gov.uk/swyddi

Cysylltwch â ni!

Rhannwch y rhifyn hwn o Newyddion CnPT!