Wyddech chi fod Eisteddfod yr Urdd ar ddod?

Gwnaethom siarad yn ddiweddar â disgyblion yn Ysgol Bae Baglan i ddarganfod sut maent yn paratoi at Eisteddfod yr Urdd eleni ym Mharc Margam. Mae’r disgyblion wedi bod wrthi’n cyfuno ymarferion â’u gwaith tuag at y Siarter Iaith.

Mae’r Siarter Iaith yn ysbrydoli plant i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. O’r ystafell ddosbarth i’r buarth, mae’n annog disgyblion i werthfawrogi’r iaith a’i defnyddio’n hyderus.

🗓️ Nodwch y ddyddiad yn eich calendr: 26-31 Mai 2025.

Prynwch eich tocynnau nawr a chefnogwch ein disgyblion dawnus! 🎟️
Eisteddfod yr Urdd: urddeisteddfod.ticketsrv.co.uk

Galwad i ddathlu ein pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig wrth i Gynllun Placiau Glas agor

Bydd Cynllun Placiau Glas coffaol a gymeradwywyd gan aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd i ddathlu pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig ledled y fwrdeistref sirol yn agor i geisiadau o 1 Ebrill 2025 ymlaen.

Darllenwch mwy

Lleisiwch eich barn am drafnidiaeth ar draws y rhanbarth

Gwnewch yn siŵr fod Castell-nedd Port Talbot yn dweud ein dweud ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol DO Cymru cyn dedlein 6 Ebrill!

Mae pobl NPT, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro’n cael holi’u barn am gynllun drafft sydd â’r nod o helpu i ffurfio gweledigaeth newydd gyffrous ar gyfer rhwydwaith drafnidiaeth fwy dibynadwy, cysylltiedig a hygyrch yn ne orllewin Cymru.

Mynegwch eich barn ar-lein nawr: www.cjcsouthwest.wales/2025consultation
Gwybodaeth Bwysig i Breswylwyr sy’n Defnyddio Canolfan Ailgylchu Cwm-twrch Isaf ♻️
Mae Cyngor Sir Powys wedi newid sut y byddwch chi’n defnyddio Canolfan Ailgylchu Cwm-twrch Isaf.  

Gan ddechrau o 1 Ebrill 2025, bydd angen i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot sy’n defnyddio’r ganolfan hon: 

• Archebu slot amser cyn ymweld â’r ganolfan ⏰ 
• Talu tâl bychan am adael gwastraff DIY. 📦 

Gallwch archebu, newid neu ganslo eich ymweliad ar lein yma: https://cy.powys.gov.uk/CAGC 

Fel arall, gallwch archebu lle drwy ffonio 01597 827465. 

Dyma’ch cyfle olaf i ddweud eich dweud…

Hoffem glywed eich barn am ein cynigion i ddarparu gwell cysylltiadau teithio llesol i Ganol Tref Castell-nedd, oddi yno ac o’i chwmpas.

I weld y cynigion a rhoi adborth, ewch i’n gwefan erbyn 7fed Ebrill 2025.

Cynhwysiant Digidol

Oes angen help arnoch i sefydlu dyfais neu ddefnyddio bancio ar-lein? Mae ein tîm cyfeillgar yma i'ch cefnogi yn ein sesiynau galw heibio digidol AM DDIM ar draws Castell-nedd Port Talbot.

Rydym yn falch o weithio gyda Neath Port Talbot Stroke Group i ateb cwestiynau TG a gwneud sgiliau digidol yn hygyrch i bawb

Dyma Lloyd a Neil o'n tîm Cynhwysiant Digidol wrth iddynt rannu sut gallwn ni helpu.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i archebu:

📞 07967273571
✉️ digitalinclusion@npt.gov.uk

Cronfa ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau 

Waeth ble yng Nghymru rydych chi’n byw, os cawsoch chi eich effeithio gan y newidiadau yn Tata Steel, yna gall ein tîm Cyflogadwyedd eich helpu i gael mynediad i’r gefnogaeth benodol sydd ar gael.

Galwch i gwrdd â’r tîm Cyflogadwyedd wyneb yn wyneb yn: 

  • Yr Orsaf Waith, Stryd y Dŵr, Port Talbot, SA12 6LF  
  • Yr Hyb Cyfleoedd, Canolfan Siopa Aberafan, Port Talbot, SA13 1PB  
  • Canolfan Gefnogi’r Gymuned, Canolfan Siopa Aberafan, Port Talbot, SA13 1PB  

Neu gallwch e-bostio jobsupport@npt.gov.uk i drefnu i gwrdd â mentor Cyflogadwyedd CnPT i wirio a ydych chi’n gymwys.

I ddysgu mwy am y Gronfa Gyflogaeth a Sgiliau, a’r holl gefnogaeth arall sydd ar gael i unrhyw un a effeithiwyd gan broses bontio Tata Steel, ewch i: www.npt.gov.uk/cy/hwb-gwybodaeth-pontio-tata-steel  

Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni.

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i www.npt.gov.uk/swyddi

Cysylltwch â ni!

Rhannwch y rhifyn hwn o Newyddion CnPT!