Cyfle i ddweud eich dweud ynglŷn â byw yng Nghastell-nedd Port Talbot 🗣️

Mae'r cyngor wedi lansio Dewch i Sgwrsio: Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, sef arolwg i drigolion sy'n gofyn am eu safbwyntiau ar wasanaethau'r cyngor, beth ddylai blaenoriaethau'r cyngor fod, sut y byddant yn rhyngweithio â'r cyngor, a'u profiad o fyw yn eu hardal leol.

Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Sul, 10 Awst 2025. Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ac sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot gymryd rhan.

Y ffordd gyflymaf o gymryd rhan yw gwneud hynny ar-lein.

Bydd holiaduron wedi'u hargraffu hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd yn y fwrdeistref sirol, yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd neu yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot.

Gall unrhyw drigolion na allant gwblhau'r arolwg ar-lein na chasglu copi papur e-bostio: sgwrsio@npt.gov.uk, tecstio'r geiriau ‘Arolwg Papur’ a'ch enw a'ch cyfeiriad i 07805 771506, neu ffonio 07805 771506 a gadael eich enw a'ch cyfeiriad ar ôl y bîp.

Cymerwch ran a rhannwch eich barn drwy lenwi’r arolwg hwn: www.npt.gov.uk/cy/ymgynghoriadau

Newyddion Cyffrous ar gyfer Gwlad y Sgydau, Pontneddfechan! 🌟🚧

Bydd gwaith ar y Prosiect Buddsoddi mewn Isadeiledd i Ymwelwyr yn dechrau’n swyddogol ddydd Llun 30 Mehefin!

Nod y datblygiad cyffrous hwn yw gwella’r profiad i bawb sy’n byw yn yr ardal, neu sy’n ymweld â hi. Er bod gwaith galluogi eisoes wedi dechrau, rydyn ni eisiau lleihau tarfu gymaint â phosib drwy gydol y cyfnod adeiladu, a rhoi digonedd o wybodaeth i chi am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Nodwch y bydd mwy o drafnidiaeth adeiladwyr, a fydd yn cael ei reoli’n ofalus, ac rydyn ni’n gweithio law yn llaw â busnesau lleol i sicrhau y trosglwyddir gwybodaeth a chyfathrebiadau mewn modd amserol

Dyma sydd ar y gweill:  

✅ Atebion Parcio Parhaol – Helpu i reoli effaith ymwelwyr yn fwy effeithiol
✅ Gwell cyfleusterau tŷ bach – Cyfleusterau modern, hygyrch i bawb
✅ Siop Fferm / Cymuned – Cefnogi menter yn lleol ac anghenion y gymuned
✅ Llety ar raddfa fach i Ymwelwyr – lleoedd cyffyrddus, perffaith ar gyfer teuluoedd, i aros ynddyn nhw
✅ Diogelwch ar yr heol a Thirlunio – Parth cyhoeddus mwy diogel a deniadol
✅ Parc Chwarae – lle hwyliog a diogel ble gall plant fwynhau

Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth wrth i ni weithio i wneud 

Pontneddfechan hyd yn oed yn fwy croesawgar ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. 🌿🌄
Ariennir y prosiect hwn gyda balchder gan Lywodraeth y DU.  

Dywedwch helo i fyCNPT!

Gwnewch bywyd ychydig yn haws ac ymunwch gydag Olivia a miloedd o bobl eraill sy'n defnyddio ein cyfrif ar-lein newydd i drigolion, fyCNPT, i gael gwybod y diweddaraf am wasanaethau lleol.

👉Cofrestrwch heddiw: www.npt.gov.uk/cy/eich-cymuned/croeso-i-fycnpt/

Allwedd Band Eang Cymru

Os oes gennych fand eang gyda chyflymdra araf o 30mbps neu lai, efallai eich bod yn gymwys am gefnogaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailagor y cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru, sy'n cynnig cyllid i helpu cartrefi/safleoedd gwledig i osod gwasanaeth band eang 30mbps+ mewn ardaloedd lle mae cysylltedd araf.

Mae unigolion, busnesau a sefydliadau trydydd sector i gyd yn gymwys i wneud cais.

I wirio eich cymhwyster a gwneud cais, ewch i: https://www.llyw.cymru/cynllun-grant-allwedd-band-eang-cymru-canllawiau-html 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Swyddog Ymgysylltu Band Eang, Bethan Walilay b.walilay@npt.gov.uk
Addewid Cyflogwr sydd o blaid Pobl Hŷn
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llofnodi Addewid Cyflogwr sydd o blaid Pobl Hŷn, rhaglen genedlaethol rad ac am ddim a ddatblygwyd gan Ganolfan Heneiddio’n Well, er mwyn gwella recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr hŷn.

Gyda phrinder sgiliau yn y farchnad lafur a phoblogaeth sy’n heneiddio, gall gweithwyr hŷn chwarae rhan hanfodol wrth oresgyn hyn. Dyw hi erioed wedi bod yn fwy pwysig i gyflogwyr ddod yn fwy agored i oedran hŷn, a manteisio ar sgiliau a phrofiad gweithwyr hŷn.

Drwy lofnodi’r addewid, mae’r cyngor yn dangos ei gefnogaeth i fynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran yn y gweithle, ac ymrwymo i weithredu o leiaf unwaith y flwyddyn i wella sut yr eir ati i recriwtio, rheoli a chefnogi gweithwyr hŷn. 

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o fod yn ymuno â thros gant o sefydliadau blaenllaw eraill wrth weithredu i helpu gweithwyr hŷn i ffynnu yn y gweithle.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch gweithio i gyngor Castell-nedd Port Talbot, a manylion swyddi gwag presennol, ewch i: https://www.npt.gov.uk/cy/swyddi

Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni.

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i www.npt.gov.uk/swyddi

Cysylltwch â ni!

Rhannwch y rhifyn hwn o Newyddion CnPT!