Ewch i’n tudalen ‘Digwyddiadau yn CnPT’ i ddod o hyd i’r holl bethau hyn a mwy! Gallwch hefyd ychwanegu’ch digwyddiadau eich hun at y rhestr: www.npt.gov.uk/digwyddiadau
Gallwch hefyd ddilyn Teulu CnPT ar y cyfryngau cymdeithasol i weld digwyddiadau rheolaidd, cynghorion a diweddariadau!
Croesawu cadarnhad o £12.16m ar gyfer prosiect pont hanesyddol yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae cadarnhad o £12,166,268 o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer prosiect i adfer ac ailagor pont hanesyddol Heol Newbridge yn Aberafan wedi cael ei groesawu.
Nid yn unig y mae'r prosiect yn cynnwys adfer y bont restredig Gradd II, ond bydd hefyd yn creu llwybr cerdded a beicio a rennir a fydd wedi'i hintegreiddio yn ffordd gerbydau'r bont, a bydd gwaith uwchraddio'n cael ei wneud ar Heol Newbridge a Heol Glanyrafon hefyd.
Mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Gwasanaethau Gweledol a Strydlun, cafodd nifer o opsiynau yn ymwneud â ffioedd parcio eu hystyried. Argymhellodd y pwyllgor y dylid dychwelyd i ganiatáu parcio am ddim yn y cilfannau ar y stryd, yn ogystal â chyflwyno tariffau arhosiad byr awr a dwy awr o hyd yn y prif feysydd parcio.
Ar ben hynny, cynigiodd y pwyllgor y dylid rhoi'r gorau i orfodi'r ffioedd presennol ar unwaith, yn hytrach nag agos i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig newydd gael ei gwblhau, a all gymryd cryn amser.
Bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad terfynol ar yr argymhellion hyn cyn bo hir.
Wedi'ch effeithio gan newidiadau yn Tata Steel? Meddwl am ddechrau eich busnes eich hun?
Cofrestrwch am ein digwyddiadau wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Cymorth Cymunedol, Canolfan Siopa Aberafan ar 8 Awst 2025 i gael cyngor ar hunangyflogaeth, dechrau busnes, a help gyda chynllunio ariannol a grantiau.