|
Mae parc antur newydd sbon sy’n cynnwys nodweddion dringo ymysg brigau’r coed yn agor yfory yn lleoliad poblogaidd Parc Gwledig Gnoll, Castell-nedd.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU, mae Tyrau Gnoll yn faes chwarae antur aml-lefel sy’n cynnig ystod o nodweddion hygyrch ar gyfer ymwelwyr o bob oedran a gallu, gan gynnwys llithrenni, waliau dringo, rampiau ac ardaloedd aml-lwyfan heriol.
|