🎄Mae'r Gwyliau'n Dod...  
Mae cymunedau a sefydliadau ar draws CnPT yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau Nadolig gwych.  
  
Rydym wedi cyhoeddi rhai tudalennau Nadolig newydd i dynnu'r holl wybodaeth hon i mewn i un lle a helpu i hyrwyddo'r pethau gwych sy'n digwydd eleni.  
  
www.npt.gov.uk/cy/Nadolig
 
Os hoffech ychwanegu eich digwyddiad neu weithgaredd i'n tudalennau yn rhad ac am ddim, llenwch y ffurflen ar gyfer ein cronfa ddata digwyddiadau.
Parciau Gnoll a Margam ill dau’n cael eu henwebu ymysg deg uchaf y lleoliadau glas ym Mhrydain
Mae’r parciau, sydd ill dau dan reolaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi dod yn enillwyr Dewis y Bobl 2025.  
 
Mae miloedd o bleidleisiau’n cael eu bwrw’n flynyddol gan ddefnyddwyr parciau o bob cwr o Brydain ar gyfer rhestr Dewis y Bobl o’r ‘deg uchaf ymysg mannau glas’ a drefnir gan dîm Gwobrau Baner Werdd Keep Britain Tidy. 
Golwg gyntaf ar gyfleusterau newydd trawiadol Parc Gwledig Gnoll Castell-nedd ar eu newydd wedd
Rhag ofn i chi ei golli! 

Golwg gyntaf ar gyfleusterau newydd trawiadol Parc Gwledig Gnoll Castell-nedd ar eu newydd wedd! 

Dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy gyfrwng prosiect Coridor Treftadaeth Cwm Nedd, mae’r datblygiad, sydd wedi para blwyddyn, wedi creu:

  • Canolfan ymwelwyr ddeulawr newydd sbon, hollol hygyrch
  • Ardal chwarae meddal benodol ar gyfer plant
  • Parc chwarae antur ‘Tyrau Gnoll’ yn y goedwig
  • Llety gwyliau sy’n croesawu cĹľn, sy’n gallu lletya hyd at chwech o bobl yn adeilad hanesyddol Bwthyn y Pwll
  • Gwaith sefydlogi a thrwsio ar adfeilion Tš Gnoll.
  • Gwaith adfer rhaeadrau trawiadol a hanesyddol y parc.
  • Llwybrau cerdded a hamddena estynedig
  • Gwefan newydd, brandio ac asedau gwybodaeth a dehongli ar draws y safle
Ydych chi wedi sylwi ar rywbeth sydd angen ei drwsio?
Mae'n hawdd rhoi gwybod drwy ddefnyddio eich cyfrif fyCNPT. 
 
Mae fyCNPT yn ei gwneud hi'n hawdd rhoi gwybod am broblemau ac mae'n caniatåu i chi ddilyn hanes unrhyw achosion y byddwch wedi rhoi gwybod amdanynt.  
 
🕳️ Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd  
🚮Rhoi gwybod am daflu sbwriel anghyfreithlon  
🛣️ Rhoi gwybod am fater yn ymwneud â glanhau'r strydoedd  
 
Pan welwch chi rywbeth sydd angen ei drwsio, rhowch wybod ar fyCNPT.

Mewngofnodwch neu ewch i ymuno heddiw: www.npt.gov.uk/cy/fyCNPT
Mae'r cyfrif i lawr i Ras 10k a 5k Parc Margam wedi cychwyn yn swyddogol!
Bydd ceisiadau'n agor yn fuan...
Rydyn ni'n cefnogi #DefnyddiaDyGymraeg

Oeddech chi'n gwybod, mae gennych chi'r hawl i:

  • Ysgrifennu llythyrau neu negeseuon e-bost atom yn Gymraeg.
  • Siaradwch â ni yn Gymraeg ar y ffĂ´n
  • Derbyn llythyrau ac e-byst Cymraeg gennym ni
  • Gweld ein gwefan yn Gymraeg
  • Defnyddiwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
  • Gwneud cais am swyddi yn Gymraeg
  • Gwneud cwynion yn Gymraeg neu am ein darpariaeth gwasanaeth Cymraeg
Mae siarad Cymraeg bob dydd yn gwneud gwahaniaeth. Defnyddia dy Gymraeg gyda ni!

Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni.

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i www.npt.gov.uk/cy/swyddi/