Mae gwobrau blynyddol ‘Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot’ yn ôl! 
Wyddoch chi am rywun sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’r gymuned? 
 
P’un ai ydyn nhw’n unigolyn neu grŵp, rydyn ni eisiau clywed am arwyr tawel o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot, o amrywiaeth o gefndiroedd. 
 
Unwaith eto, bydd y gwobrau’n  cydnabod arwyr di-glod o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cymunedau. 
 
Gyda chefnogaeth garedig Tata Steel UK & Trade Centre Wales, cynhelir y digwyddiad yn Yr Orenfa, Parc Margam ar ddydd Gwener 17 Ebrill, 2026. 
 
Enwebiadau’n cau am hanner dydd ar ddydd Mercher Mawrth 25, 2026. Felly, os ydych chi'n adnabod unigolyn neu grŵp cymunedol sy'n haeddu cael ei gydnabod, gwnewch enwebiad heddiw
Mynegwch eich Barn - Gwella Teithio Llesol a Mannau Cyhoeddus Sandfields
Rydym yn gofyn i breswylwyr ac ymwelwyr rannu eu barn ynghylch gwelliannau arfaethedig i lwybrau cerdded, olwyno a beicio ar draws Sandfields ac ardal glan môr Aberafan.

Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi cynlluniau adfywio glan môr ehangach, gan gynnwys gwaith uwchraddio o gwmpas caffi Memo Beach, y parc sglefrio a'r ddyfodfa at Ysgol Gynradd Tywyn.

📝 Gallwch weld y cynigion a chwblhau'r arolwg yma: 
👉 www.npt.gov.uk/cy/TeithioLlesol
🗓 Diwedd y cyfnod rhoi adborth: 11 Mawrth 2026

Ymunwch yn ein digwyddiadau ymgysylltu yng Nghanolfan Hamdden Aberafan: 

• Dydd Llun 2  Mawrth – 15:00  i 19:00
• Dydd Sadwrn 7 Mawrth – 10:00  i 13:00
 
Bydd tîm y prosiect ar gael i drafod y cynlluniau â chi ac ateb eich cwestiynau. 

📚 Bydd copïau papur o'r arolwg a'r cynlluniau hefyd ar gael yn Llyfrgelloedd Sandfields, Port Talbot a Chastell-nedd.
Y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion wrth i'r Cabinet ystyried cynigion y gyllideb
Disgwylir i gyllideb arfaethedig Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2026/27 arwain at y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion a diogelu gwasanaethau rheng flaen hanfodol yn ystod cyfnod o bwysau ariannol parhaus.

Os caiff ei chymeradwyo, byddai'r gyllideb gwerth £428 miliwn yn cefnogi gwasanaethau beunyddiol hanfodol, o gynnal a chadw ffyrdd ac addysgu miloedd o blant i ofalu am bobl agored i niwed a chasglu gwastraff cartrefi, gan gadw'r cynnydd i'r dreth gyngor ymhlith y lleiaf yng Nghymru ar yr un pryd.

Stori Llawn yma
Trawsnewid canol trefi Castell-nedd Port Talbot!

Mae Grant Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru ar agor o hyd i brosiectau a fydd yn helpu i wneud canol ein trefi yn wyrddach, yn fwy bywiog ac yn ffyniannus.

Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau yn ardaloedd: Port Talbot, Llansawel, Castell-nedd, Pontardawe, Glyn-nedd ac Ystalyfera.

Gall y grant gefnogi:

  • Gwella eiddo masnachol
  • Trawsnewid unedau preswyl
  • Isadeiledd gwyrdd
  • Gwelliannau teithio llesol

Rhaid cyflawni'r holl brosiectau a gefnogir erbyn mis Rhagfyr 2026.

A oes gennych syniad adfywio? Rydym yn awyddus i glywed gennych!

Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfleoedd gwaith yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot? Dewch i ymweld â ni yn yr Hwb Cyfleoedd yng nghanolfan siopa Aberafan ar ddydd dydd mercher 18 Mawrth, rhwng 10am a 1pm. Bydd ein tîm yno i drafod swyddi gwag yn awr ac yn y dyfodol a chynnig arweiniad ar sut i wneud cais.  Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i archwilio opsiynau gyrfa cyffrous!

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i www.npt.gov.uk/cy/swyddi/