🏖️ Traeth Aberafan yn ennill Gwobr Glan Môr 2026 🏖️ 
Mae Traeth Aberafan yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi’i gydnabod fel un o brif gyrchfannau arfordirol Cymru ar ôl derbyn Gwobr Glan Môr fawreddog ar gyfer 2026 gan elusen Cadwch Gymru’n Daclus. Mae’r wobr yn tynnu sylw at safonau uchel y traeth o ran glendid, diogelwch a rheolaeth, gan nodi ei fod ymhlith y gorau yn y wlad.

Datganiad llawn i'r wasg yn:Traeth Aberafan Ymysg y Glanaf a Mwyaf Deniadol yng Nghymru - Newyddion CNPT
🌊 Aberavon Aqua Splash 🌊
Agorodd Aqua Splash ddydd Gwener 22 Mai, gyda dros 30 o nodweddion dŵr gan gynnwys ffynhonnau, jetiau a rhaeadrau. ⛲

Dyma’r’lle perffaith i’r teulu cyfan sblasio, chwarae ac ymlacio ynddo.🏖️
 
I gael gwybodaeth am archebu Sesiwn Gynhwysol  yn Aqua Splash, dilynwch y ddolen hon:  Sesiynau Cynhwysol Aqua Splash - Celtic Leisure

📜 Mae Castell-nedd Port Talbot yn Croesawu Maer Newydd 📜
Penodwyd y Cynghorydd Alan Lockyer yn Faer newydd ar Gastell-nedd Port Talbot yn dilyn seremoni yn Yr Orendy, Parc Gwledig Margam.

Mae gan y Cynghorydd Lockyer, sy’n gyn-Ddirprwy Faer, gysylltiad gydol oes â’r ardal a chefndir rhagorol ym maes cerddoriaeth.

Mae’r Maer a’r Faeres wedi dewis cefnogi Childhood Eye Cancer Trust (CHECT) fel eu helusen faerol, gan helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogi’r rheini yr effeithir arnynt gan retinoblastoma.
 
🦁Clwb Llyfrau’r Llewod Bach🦁
Mae Clwb Llyfrau’r Llewod Bach yma! 

O ddydd Gwener 22 Mai, bydd plant hyd at bedair oed yn gallu ymuno â Chlwb Llyfrau’r Llewod Bach mewn unrhyw lyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot. 

Ewch i'r llyfrgell, benthycwch lyfrau, casglwch sticeri a derbyniwch dystysgrif arbennig ar thema anifeiliaid am bob pedwar ymweliad. Mae deg tystysgrif wahanol i'w casglu. 

Rhowch y dechrau gorau mewn bywyd i blant a'u cychwyn ar eu taith ddarllen gydol oes yn y llyfrgell!
💡Diwrnod Darganfod Digidol💡
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd nifer fawr o sefydliadau yn cymryd rhan yn ein Diwrnod Darganfod Digidol!

📅 Dyddiad: Dydd Sadwrn 27 Mehefin
📍 Lleoliad: Neuadd Gwynn, Castell-nedd 10am – 3pm 

P'un a ydych chi eisiau mynd ar-lein, gwella sgiliau digidol, neu archwilio cyfleoedd technoleg newydd, dyma'ch cyfle i archwilio, dysgu a chysylltu.

Dewch i ddysgu am Ddeallusrwydd Artiffisial, atal twyll ar-lein, offer realiti rhithwir, cyfleoedd uwchsgilio digidol, sut i gael mynediad at wasanaethau ar-lein lleol a mwy...

👉 Mae'r digwyddiad hwn am ddim. Rhowch y dyddiad yn y dyddiadur ac ymunwch â ni!

Gallwch gael y manylion llawn ac amserlen y digwyddiad trwy fynd i dudalen y digwyddiad, neu drwy sganio'r côd QR

🌳 Dihangwch i Ivy Cottage, Parc Margam – Hwyl i’r Teulu Cyfan  🌳 

Mae Ivy Cottage yn cynnig llety hunanarlwyo eang mewn ardal wledig gyda mynediad preifat i leoliad hanesyddol a phrydferth Parc Margam. Bydd Pentref y Tylwyth Teg, lleoedd chwarae antur, y trên a’r llwybrau fferm yn siŵr o roi gwên ar wynebau'r plant a bydd yr awyrgylch gwledig hamddenol yn apelio i'r oedolion. Mae’r lleoliad 30 munud i ffwrdd o ystod o draethau a threfi mewn car, felly mae digonedd i ddiddori’r ymwelwyr mwyaf ffwdanus ac mae'n addas i gŵn hefyd. 

Arhosiad am 4 noson ar gyfer hyd at 5 person am dim ond £600 ar gael nawr yn llety anhygoel Ivy Cottage ym Mharc Margam!!  Mae Ivy Cottage yn cynnig llety eang mewn ardal wledig gyda mynediad preifat i leoliad hanesyddol a phrydferth Margam. Mae gwelyau i hyd at bump o westeion, felly dyma werth am arian anghredadwy. 


Darganfod mwy:Llety Gwyliau Ivy Cottage

📱Gwiriwr Signal Ffonau Symudol Newydd ar gyfer Castell-nedd Port Talbot 📱
Fel rhan o astudiaeth cysylltedd ffonau symudol a gomisiynwyd gan y cyngor, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi darparu gwiriwr signal ffonau symudol cyhoeddus ar gyfer preswylwyr a busnesau.

Mae’r gwiriwr yn darparu golwg hygyrch i’r cyhoedd o signal ffonau symudol gan ddefnyddio data arolygon gwirioneddol a gasglwyd ar draws y fwrdeistref sirol. 
📝 Mae'n syml i gofrestru ar gyfer fyCNPT 📝
Mewn llai na 2 funud bydd gennych gyfrif trigolion wedi'i bersonoli i chi ar gyfer rheoli'r holl wasanaethau rydych yn eu derbyn gan y cyngor. 
 
Cliciwch ar y ddolen isod i ddechrau arni. 
 
📅 Beth sydd ymlaen yn CnPT? 📅
Yn chwilio am bethau i’w gwneud gyda'r plant? Cerddoriaeth fyw? Cyflogaeth neu gyngor ar TG? Rhywle i ymarfer neu ddysgu sgil newydd? 
 
Ewch i’n tudalen ‘Digwyddiadau yn CnPT’ i ddod o hyd i’r holl bethau hyn a mwy!  
 
Gallwch hefyd ychwanegu’ch digwyddiadau eich hun at y rhestr. 
 
 

📢 Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni. 📢

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i
 
⭐ Swydd yr Wythnos⭐
 Swyddi Cynorthwy-ydd Addysgu  

Ar hyn o bryd mae gan Ysgol Gynradd St. Therese sawl swydd wag ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu. 

Oriau dwy o’r swyddi hyn yw 27.5 awr ac oriau’r llall yw 16.5 awr. 

📅Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: 01/06/2026