Mae camlas yn rhedeg drwy ardal goedwigol ac yn adlewyrchu’r coed a’r llystyfiant o’i chwmpas. Mae llwybr graean yn dilyn y gamlas ac mae dau berson yn cerdded ar ei hyd ar ddiwrnod braf.
🍴Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd 🍴
Mae Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd ar ddod!

Byddwch yn barod am ddau ddiwrnod anhygoel yng nghanol tref Castell-nedd!

📅Dydd Gwener 2 a dydd Sadwrn 3 Hydref 2026

⏰ 10.00am – 5.30pm

📍Canol tref Castell-nedd

👉I ddarganfod rhagor am yr ŵyl, cliciwch yma
Amrywiaeth o deisennau wedi'u haddurno'n wahanol, gan gynnwys haenen uchaf gyda moron, mefus ffres, a hufen a darnau cyffug.
🌟 Arweinyddiaeth Newydd dros Ddiwylliant yng Nghastell-nedd Port Talbot🌟
Menyw sy’n gwisgo ffrog las ac yn sefyll y tu allan o flaen wal frics.

Dyma Gemma Charnock  


Rydyn ni wrth ein bodd i gyflwyno Gemma fel Cadeirydd Annibynnol newydd Partneriaeth Ddiwylliant Castell-nedd Port Talbot.

Fel Cadeirydd, bydd Gemma'n helpu i lywio'r Bartneriaeth i symud Strategaeth Ddiwylliant CnPT yn ei blaen a darparu gweledigaeth ac uchelgeisiau'r gymuned dros ddiwylliant yn ystod y blynyddoedd i ddod. 
Y Bartneriaeth yw'r corff cyflawni sy'n goruchwylio cais Port Talbot i ddod yn Dref Diwylliant y DU 2028 hefyd.
 
Drwy gydol y broses o wneud cais o fis Medi i fis Tachwedd 2026, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned i helpu i roi ffurf ar y cais.
 
SUT I GYMRYD RHAN: https://porttalbottownofculture.wales/cy/get-involved/ 


👉Stori llawn yma

Cronfa newydd gwerth £1.2M i gefnogi gweithgareddau llesiant cymunedol ar draws Castell-nedd Port Talbot

Bydd y Gronfa Iechyd Meddwl a Llesiant Cymunedol TSUK sy'n werth £1.2M ac yn cael ei ariannu drwy gyfrwng rhaglen bontio Tata Steel, yn buddsoddi mewn prosiectau lleol syn helpu pobl, teuluoedd a chymunedau i ymateb yn gadarnhaol i'r heriau a grëwyd gan newidiadau diweddar, ac ar yr un pryd adeiladu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig ar gyfer y dyfodol.

Bydd y gronfa newydd yn darparu grantiau hyd at £50,000 i sefydliadau cymwys sy'n darparu mentrau dan arweiniad y gymuned o fewn i Gastell-nedd Port Talbot. Gall prosiectau dderbyn hyd at 100% o gyllid, gyda chefnogaeth ar gael i gostau refeniw a chyfalaf.

👉Stori llawn yma

📢 Cynllun Grant y Trydydd Sector ar Agor ar gyfer Ceisiadau 📢
Graffigyn hyrwyddol ar gyfer Cronfa Grant Trydydd Sector Castell-nedd Port Talbot 2027/2030. Mae’r ddelwedd yn cynnwys gludwaith o weithgareddau a gwasanaethau cymunedol, gan gynnwys gwirfoddoli, adeiladau cymunedol, cymorth bwyd, cyfleusterau hamdden, garddio, gwasanaethau symudedd, digwyddiadau a siopau elusen, gyda’r testun ‘Apply Online’.

Mae sefydliadau trydydd sector ledled Castell-nedd Port Talbot yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyfran o £575,000 ar ôl i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gymeradwyo cynllun grantiau diwygiedig.

Bydd proses gwneud cais y Cynllun Grantiau Trydydd Sector yn agor ddydd Iau 24 Medi 2026, gan nodi dechrau rhaglen gyllido newydd sydd â'r nod o gefnogi sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau a gweithgareddau hanfodol ar gyfer cymunedau lleol.

👉I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: Grantiau'r Trydydd Sector 2027/2030 - Cyngor CnPT

🏊Cymorth gwerth £3.3 miliwn i gyfleusterau hamdden Castell-nedd Port Talbot 🏊

Gall preswylwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot elwa o fuddsoddiad sy’n werth dros £3.3 miliwn mewn cyfleusterau hamdden leol, gyda chynlluniau i foderneiddio canolfannau, ehangu cyfleoedd ffitrwydd a gwella gwasanaethau lles.

Mae gwelliannau arfaethedig yn cynnwys:

🔹Stiwdio Pilates ‘Reformer’ ac estyniad i gampfa Canolfan Hamdden Aberafan
🔹Ailddatblygiad mawr yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe
🔹Cyrtiau padel newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Castell-nedd
🔹Gwelliannau i'r gampfa yng Nghanolfan Hamdden Cwm Nedd.

Bwriad y rhaglen yw cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol wrth gefnogi cynaliadwyedd tymor hir gwasanaethau hamdden ar draws y fwrdeistref sirol. 
 
👉Stori llawn yma

Gludwaith o bedwar adeilad cymunedol a hamdden, sy'n dangos mynedfeydd modern, a llwybrau, ardaloedd parcio a mannau gwyrdd agored  o'u cwmpas
📣Arolwg Dewch i Sgwrsio: Byw yn CnPT 2026 📣
Golygfa o'r awyr ar draws Port Talbot sy'n dangos cartrefi, cysylltiadau trafnidiaeth a'r arfordir gyda'r môr yn y cefndir

Gwahoddir preswylwyr 16 oed a hŷn i gymryd rhan yn arolwg Dewch i Sgwrsio: Byw yn CnPT 2026 ac i rannu eu barn am wasanaethau'r cyngor, blaenoriaethau lleol a bywyd yn y fwrdeistref sirol. 

Mae adborth o arolygon blaenorol wedi helpu i lunio buddsoddiadau mawr, gan gynnwys y Cynllun Gwella Cymdogaethau gwerth £4.5 miliwn a'r prosiectau adfywio canol trefi parhaus.

Mae'r arolwg yn cymryd oddeutu 10 munud i'w gwblhau ac yn cau ar 27 Hydref 2026.👉Cliciwch yma i gymryd rhan

🍽️ Prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd 🍽️
Mae pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, gan helpu teuluoedd gyda'r gost o ddiwrnodau ysgol a sicrhau bod plant yn mwynhau prydau maethlon yn yr ysgol.

👉Cliciwch
yma i weld os ydych yn gymwys am ragor o gefnogaeth.
Grŵp o blant oedran ysgol gynradd yn eistedd gyda'i gilydd y tu allan ar fainc bren mewn lle chwarae ar safle ysgol neu leoliad addysgol.
🎶Paul Potts - 20th Anniversary Homecoming Concert 🎶
Portread o'r cantor Paul Potts yn pwyso ar biano cyngerdd, a gellir gweld ei adlewyrchiad yng nghlawr y piano sydd wedi'i godi a ffenestri mawr yn y cefndir.
Mae'r tenor byd enwog, Paul Potts, yn dychwelyd i'w dref enedigol i arwain dathliadau agoriadol Yr Aelwyd.

Bydd y gyngerdd arbennig hon yn lansio dathliadau 20 mlynedd ers ei ymddangosiad trawsnewidiol ar Britain's Got Talent ac yn helpu i groesawu pennod newydd yn hanes y theatr.

📅Nos Sadwrn 27 Chwefror 2027

Am ragor o wybodaeth a manylion am docynnau, cliciwch yma
📝 Mae'n syml i gofrestru ar gyfer fyCNPT 📝
Mewn llai na 2 funud bydd gennych gyfrif trigolion wedi'i bersonoli i chi ar gyfer rheoli'r holl wasanaethau rydych yn eu derbyn gan y cyngor. 
 
Cliciwch ar y ddolen isod i ddechrau arni. 
 
Graffigyn hyrwyddol ar gyfer ap fyCNPT sy'n dangos llaw yn dal ffôn clyfar gyda rhyngwyneb yr ap ar y sgrin, ynghyd â thestun sy'n annog preswylwyr i gofrestru ar gyfer mynediad at wasanaethau'r cyngor drwy wasgu botwm.
📅 Beth sydd ymlaen yn CnPT? 📅
Yn chwilio am bethau i’w gwneud gyda'r plant? Cerddoriaeth fyw? Cyflogaeth neu gyngor ar TG? Rhywle i ymarfer neu ddysgu sgil newydd? 
 
Ewch i’n tudalen ‘Digwyddiadau yn CnPT’ i ddod o hyd i’r holl bethau hyn a mwy!  
 
Gallwch hefyd ychwanegu’ch digwyddiadau eich hun at y rhestr. 
 
 
Graffigyn sy'n hyrwyddo gweithgareddau lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot, sy'n cynnwys lluniau o dorf mewn digwyddiad awyr agored, beicwyr ar lwybr defnydd a rennir a rhesi o seddi mewn theatr. Mae'r testun yn dweud: "What's On in NPT"

📢 Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni. 📢

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i
 
Graffigyn recriwtio sy'n hyrwyddo'r cyfleoedd swyddi diweddaraf, sy'n cynnwys tri aelod o staff mewn fframiau crwn a botwm mawr "Apply Now"
 ⭐Swyddog Trafnidiaeth Strategol ⭐

Rydym yn chwilio am Swyddog Trafnidiaeth Strategol gydag egni a gweledigaeth i helpu hyrwyddo newid arloesol ar draws ein cymunedau. 

Byddwch yn gweithio gydag arweinwyr angerddol i lunio a chyflwyno strategaethau a pholisïau trafnidiaeth modern a chynaliadwy – nid yn unig ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, ond ar gyfer rhanbarth gyfan De Cymru. 

Dychmygwch ddatblygu datrysiadau creadigol sy'n annog pobl i gerdded a beicio gan drawsnewid sut mae pobl yn symud, yn byw ac yn ymgysylltu. 

Os ydych chi’n adnabod rhywun a allai fod ganddo ddiddordeb mewn cyflwyno cais, cofiwch ei dagio yn y sylwadau. 

📅 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: 18/10/2026
Graffigyn hyrwyddol o Gyngor Castell-nedd Port Talbot sy’n hysbysebu swydd wag Swyddog y Strategaeth Drafnidiaeth. Mae’r rôl yn un amser llawn, parhaol ac am 37 awr yr wythnos, ac mae’r cyfnod ymgeisio’n cau ar 18 Hydref 2026. Mae’r graffigyn yn cynnwys lluniau sy’n ymwneud â beicio, brandio’r cyngor a neges “Apply Now” sy’n cyfeirio pobl at wefan swyddi’r cyngor.