🍴The Great British Food Festival 🍴

Mwynhewch fwyd stryd anhygoel, marchnad grefftau anferth, arddangosiadau coginio byw a'r profiad Cook Taste Learn newydd sbon.

Gyda cherddoriaeth fyw trwy gydol y dydd, gweithgareddau i'r teulu, lle chwarae antur, golygfeydd anhygoel o Gastell Margam a thiroedd sy'n addas i gŵn, mae rhywbeth at ddant pawb.

A'r peth gorau oll, mae parcio AM DDIM.

📅29, 30 a 31 Awst
🕙 Ar agor o 10am-5.30pm bob dydd (5pm ar ddydd Llun Gŵyl y Banc).

I brynu tocynnau, cliciwch yma

♻️Ailgylchu dros Ŵyl y Banc ♻️ 
Oherwydd Gŵyl y Banc, bydd casgliadau biniau'n cael eu cynnal ddiwrnod yn hwyrach nag arfer.
 
👉I wirio eich dyddiad casglu diwygiedig ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r ddolen yma.
🔵 Pwy fyddwch chi'n ei enwebu ar gyfer Plac Glas? 🔵

Ydych chi'n gallu meddwl am berson, lle neu ddigwyddiad lleol yr hoffech iddo dderbyn Plac Glas?

Mae amser o hyd i gyflwyno eich enwebiad! ✨

Mae enwebiadau ar agor tan 30 Hydref 2026 📅

Am wybodaeth am Gynllun Plac Glas y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys sut i wneud cais, ewch i wefan y Cyngor yma

🗨️Arolwg Gwasanaethau Dydd💬
Mae yna amser o hyd i chi ddweud eich dweud.

Os ydych chi'n defnyddio gwasanaethau dydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, neu’n gofalu am rywun sy’n eu defnyddio, hoffwn glywed am eich profiadau.

🔹Beth sy'n gweithio'n dda yn y gwasanaethau dydd?
🔹Beth sy'n teimlo fel pe bai'n bwysig ei gadw?
🔹Unrhyw beth a allai beri fod y gwasanaethau'n teimlo hyd yn oed yn well
🔹 Beth sy'n helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu cefnogi ac yn llawn hyder?

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall beth sydd bwysicaf i bobl a sut gall gwasanaethau dydd barhau i gefnogi unigolion a theuluoedd i gadw'n heini, yn annibynnol a theimlo'n gysylltiedig yn eu cymunedau.
Cedwir pob ymateb yn gyfrinachol

👉Cwblhewch yr arolwg yma
🔗Digwyddiad Ymgysylltu â'r Gadwyn Gyflenwi🔗

 🏗️ Gontractwyr, gyflenwyr a BBaChau lleol – peidiwch â cholli'r cyfle hwn! 

Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal Digwyddiad Ymgysylltu Rhad ac am Ddim ar gyfer y Gadwyn Gyflenwi cyn i'w Fframwaith Mân Waith newydd gael ei lansio.

📆 2 Medi 2026

⏰8:30am - 1:00pm

📍 Gwesty a Bwyty Blanco's, Port Talbot 

Gallwch ddarganfod sut i ymuno, gofynion tendro, amserlenni, disgwyliadau o ran gwerth cymdeithasol, a sut i wneud cynigion drwy GwerthwchiGymru. Cewch hefyd gyfle i rwydweithio â swyddogion y Cyngor a phartneriaid cyflawni posibl.

👉Cliciwch yma i gofrestru

🤍 Cofio Bonnie Tyler🤍

Gwnaeth cannoedd o bobl yn nhref enedigol Bonnie Tyler, Sgiwen, a thu hwnt, sefyll ar hyd y palmentydd i gymeradwyo, canu a dathlu'r gantores wrth iddi fynd ar ei siwrne olaf ar ôl iddi farw yn 75 oed.

Taenwyd llawer o flodau ar foned yr hers, a gellid clywed rhai o'i chaneuon enwocaf ar yr awel o fusnesau cyfagos wrth i'r orymdaith ddirwyn o Gadeirlan Abertawe i angladd preifat ar gyfer y teulu.

👉Stori Llawn
yma

🎪Ffair Fedi Castell-nedd🎪

Mae un o ffeiriau siarter hynaf Ewrop yn dychwelyd ym mis Medi, gan ddod a pum niwrnod o hwyl i'r teulu, reidiau cyffrous, bwyd blasus a stondinau marchnad brysur i ganol tref Castell-nedd. 🎉

Yn newydd ar gyfer 2026, gall ymwelwyr fwynhau arddangosfa ffair fach hynod ddiddorol yn Llyfrgell Castell-nedd, sy'n cynnwys reidiau model gweithredol a phethau cofiadwy hanesyddol o'r ffair. Hefyd, mae'r llyfrgell yn cynnal arddangosfa arbennig sy'n dathlu mwy na 700 mlynedd o hanes Ffair Wych Castell-nedd.

📅 9-13 Medi

📍 Canol Tref Castell nedd, Maes Parcio Heol Milland a Llyfrgell Castell-nedd

👋Dewch i gwrdd â'n Swyddog Heneiddio'n Dda👋

Mae Daniel yn cefnogi pobl hŷn yn ein cymunedau drwy wrando ar eu pryderon, darparu gwybodaeth ddefnyddiol a'u helpu i gael mynediad at y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt.

📍 Ble i ddod o hyd i Daniel:

🔹 Bob dydd Mawrth, 10am i 2pm ym Maes y Darren, Ystalyfera
🔹Bob dydd Iau, 10.30am i 2.30pm yn Neuadd Gymunedol Tai Tarian, Llys Nant Fer, Gwauncaegurwen

Methu cyrraedd y lleoliad hwn? Hoffai Daniel glywed gennych o hyd. Gallwch ei ffonio ar 07866 916340 i gael sgwrs

🚴 Peidiwch â cholli'ch cyfle i lywio cynlluniau Teithio Llesol🚴

Helpwch lunio dyfodol teithio llesol yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn diweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol.

Rydym yn gwahodd preswylwyr, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid i fynegi eu barn am ein cynigion diweddar a helpu i lunio'r map terfynol cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

📅 Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 21 Medi 2026

👉Mwy o wybodaeth yma

🎓Gwasanaethau ieuenctid CnPT🎓

Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion a staff ar draws Castell-nedd Port Talbot a dderbyniodd eu canlyniadau ym mis Awst! 👏

Os ydych yn dal i ystyried eich opsiynau, mae Cynghorwyr Cefnogi Cyflogaeth cyfeillgar ar gael yn lleoliadau The Opportunity Hub yng Nghastell-nedd ac Aberafan.

✅ Does dim angen apwyntiad

📞 01639 860160

✉️ jobsupport@npt.gov.uk 

👉Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

💼Ffair Swyddi Neuadd Gwyn 💼

Chwilio am eich swydd nesaf? 

Dewch i’n Ffair Swyddi yn y Neuadd Gwyn a chymerwch y cam nesaf tuag at ddarganfod y cyfle iawn.

Bydd ein tîm wrth law i sgwrsio, eich helpu i ddiweddaru eich CV, a’ch cysylltu â chyflogwyr lleol sy’n recriwtio ar hyn o bryd. 

Mynediad am ddim, dim angen cadw lle, a chroeso cynnes i bawb – galwch heibio!

🏛️Arddangosfa ‘Llifo Drwy Amser: Pobl, Lle a Newid🏛️
Dyma’ch cyfle olaf i brofi'r arddangosfa yng Nghanolfan Ymwelwyr Rhaeadr Aberdulais cyn iddi symud i'r Gnoll ar 10/09/26.

Yn ogystal â darganfod hanes lleol, gall ymwelwyr rannu eu hatgofion, ffotograffau a straeon drwy nodweddion rhyngweithiol yr arddangosfa.
Bydd cyfraniadau dethol yn cael eu hychwanegu at gasgliad yr amgueddfa a'u cynnwys yn archifau ar-lein yr arddangosfa.

📍 Canolfan Ymwelwyr Rhaeadr Aberdulais (gyda St Giles Trust)
🕙 Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 10am a 3pm trwy gydol mis Awst
✅ Mynediad am ddim

👉 Darganfyddwch ragor yma
📝 Mae'n syml i gofrestru ar gyfer fyCNPT 📝
Mewn llai na 2 funud bydd gennych gyfrif trigolion wedi'i bersonoli i chi ar gyfer rheoli'r holl wasanaethau rydych yn eu derbyn gan y cyngor. 
 
Cliciwch ar y ddolen isod i ddechrau arni. 
 
📅 Beth sydd ymlaen yn CnPT? 📅
Yn chwilio am bethau i’w gwneud gyda'r plant? Cerddoriaeth fyw? Cyflogaeth neu gyngor ar TG? Rhywle i ymarfer neu ddysgu sgil newydd? 
 
Ewch i’n tudalen ‘Digwyddiadau yn CnPT’ i ddod o hyd i’r holl bethau hyn a mwy!  
 
Gallwch hefyd ychwanegu’ch digwyddiadau eich hun at y rhestr. 
 
 

📢 Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni. 📢

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i
 
⭐Uwch Swyddog Safonau Masnachu ⭐   

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a rhagweithiol i ymuno â'n tîm fel Uwch Swyddog Safonau Masnachu yn y gwasanaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, Cyfarwyddiaeth Yr Amgylchedd ac Adfywio.

Fel Uwch Swyddog Safonau Masnachu, byddwch yn arwain yr isadran Manwerthu a Diwydiannol ac yn chwarae rhan weithredol yn rheolaeth y gwasanaeth, gan oruchwylio staff a sicrhau gweithgarwch gorfodi a chydymffurfio o ansawdd uchel. 

📆 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: 31 Awst 2026