Mae camlas yn rhedeg drwy ardal goedwigol ac yn adlewyrchu’r coed a’r llystyfiant o’i chwmpas. Mae llwybr graean yn dilyn y gamlas ac mae dau berson yn cerdded ar ei hyd ar ddiwrnod braf.
🕊️Sul y cofio yng Nghastell-nedd a Phort Talbot 🕊️
Bydd cymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot yn dod at ei gilydd ddydd Sul 8 Tachwedd i gofio a thalu teyrnged i bawb a wnaeth gwasanaethu ac am eu haberthau.

📍Castell-nedd Port Talbot
📅Dydd Sul 8 Tachwedd 2026
🌺Gwasanaethau a gorymdeithiau'n digwydd

Cynhelir digwyddiadau coffa hefyd yn Llansawel, Ystalyfera a Phontardawe a drefnwyd gan gynghorau tref a chymuned gyda chymorth sefydliadau gwirfoddol.

👉Darllenwch y stori lawn yma
A remembrance procession with standard-bearers carrying flags, including the Union and Welsh flags, followed by participants through a park.  Two highways maintenance workers wearing high-visibility clothing carrying out road improvement works on a residential street, with a maintenance vehicle parked behind them.
🎭 Cais Port Talbot ar gyfer Tref Diwylliant y DU 2028 🎭

Gallai cais Port Talbot ar gyfer Tref Diwylliant y DU 2028 ddod â buddsoddiad gwerth £3 miliwn, denu sylw'r genedl at y dref a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer artistiaid, perfformwyr a chymunedau lleol. 

Mae gan y dref hanes balch o gynhyrchu perfformwyr dawnus eisoes. Mae Helen John yn helpu'r genhedlaeth nesaf i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder drwy San Portablo Arts a sesiynau wythnosol am ddim gyda National Youth Arts Trust yn The New Plaza. 

Mae rhai perfformwyr ifanc eisoes wedi symud o Bort Talbot i'r West End, ac mae eraill yn dechrau'r daith. 

👉Darganfyddwch fwy a mynegwch eich barn yma

⭐Buddsoddiad y Porthladd Rhydd Celtaidd ym Mort Talbot⭐

Cadarnhawyd cyllid y Porthladd Rhydd Celtaidd ar gyfer datblygiad gwerth £8.4m ym Mharc Arloesi Waterside, Port Talbot.

Bydd y buddsoddiad yn helpu i adnewyddu safle tir llwyd mawr a chynlluniwyd i adeiladu chwe uned fusnes newydd fel rhan o gam cyntaf y cynllun.

 
👉Darllenwch y stori lawn yma

Golwg eang o'r awyr o ardal drefol a diwydiannol yng nghanol bryniau gwyrdd gyda ffyrdd, adeiladau a safleoedd diwydiannol wrth ochr dyfrffordd droellog o dan awyr las ac ychydig gymylau.
👏 Penodwyd Arweinydd newydd ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot 👏 
Portread o ddyn yn gwisgo siwt lwyd â phatrwm sgwarog, crys gwyn a thei streipiog glas a gwyrdd, yn sefyll yn yr awyr agored o flaen deiliach gwyrdd, trwchus.
Penodwyd y Cynghorydd Scott Jones fel Arweinydd newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r Cynghorydd Carl Jordan wedi cymryd rôl Aelod y Cabinet dros y Strydlun yn dilyn y penodiad.

Cadarnhawyd y ddau benodiad yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ar 14 Hydref 2026.

👉Darllenwch yr adroddiad llawn yma



🌿Prosiect Adfer Mawndiroedd yn derbyn hwb ariannol mawr 🌿

Mae'r prosiect Cysylltiadau Adfer Mawndiroedd wedi derbyn bron £2 miliwn oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfywio a gwella cynefinoedd pwysig.

Bydd y prosiect, a arweinir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, yn gwneud gwaith cadwraeth ar draws 16 o safleoedd ac yn cynnwys oddeutu 870 hectar.

👉Darganfyddwch ragor yma

Grŵp o bobl yn clirio llystyfiant sydd wedi gordyfu o gwmpas adeiledd crwn diwydiannol mawr mewn coetir. Mae canghennau wedi'u tocio a gwyrddni'n gorchuddio'r tir o'u blaenau ac mae piler cerrig a brics ac arwydd sy'n dweud "Caution - Do not climb" yn y cefndir.
♻️ Mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghastell-nedd Port Talbot♻️
 Pentwr o wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar wair ger llystyfiant trwchus, gan gynnwys plastrfwrdd wedi'i dorri, deunydd lapio, poteli, dillad, cardbord a gwastraff cartref arall.
Pentwr o sachau gwastraff du a gwastraff cartref rhydd wedi'i daflu ger ardal laswelltog sydd wedi gordyfu yng nghanol perthi a choed.

Rhoddwyd Gorchymyn Cymunedol 12 mis i ddyn ar ôl iddo dipio gwastraff adeiladu'n anghyfreithlon ar ffordd fynediad yng Nghwmgwrach.

Cafodd y gwastraff, a oedd yn cynnwys plastrfwrdd a phlastr gan amlaf, ei ddarganfod mewn dau bentwr mawr ger Glofa Unity.

Cafodd ei orchymyn hefyd i dalu mwy na £1,100 mewn costau'n dilyn y trosedd. 
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn annog preswylwyr a busnesau i ddefnyddio cludwyr gwastraff awdurdodedig a gwaredu gwastraff yn gyfrifol. 

👉Darllenwch y stori lawn yma

Gorchmynnwyd contractiwr gwaredu gwastraff i dalu mwy na £2,000 ar ôl gadael 14 bag o wastraff cartref o dan pontffordd yr M4 ym Mharc Ynni Baglan.


Pleidiodd y contractiwr yn euog o waredu gwastraff a reolir yn anghyfreithlon a chludo gwastraff heb fod yn gludwr gwastraff trwyddedig.


Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn atgoffa preswylwyr i wirio bod unrhyw un a huriwyd i waredu gwastraff wedi'i gofrestru'n gywir ac yn ei waredu'n gyfrifol. 

👉Darllenwch y stori lawn yma
🚗 Mega Drive yn helpu pobl ifanc i gadw'n ddiogel ar y ffyrdd🚗

Mae mwy na 270 i ddisgyblion o ysgolion uwchradd ar draws Castell-nedd Port Talbot wedi cymryd rhan mewn prosiect Mega Drive, sy'n eu helpu i ddod yn yrwyr ac yn deithwyr mwy diogel a chyfrifol.//

Roedd y sesiynau rhyngweithiol yn cynnwys diogelwch ffyrdd, cynnal a chadw cerbydau, CPR a pheryglon cyffuriau, alcohol, goryrru a defnyddio ffonau symudol.//
 
👉Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch ffyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot, cliciwch yma

☕Mannau Clyd, Croeso Cynnes☕

Mae Man Clyd Clwb Rygbi Creunant yn cynnig lle croesawgar i bobl fwynhau paned, cael sgwrs, cymryd rhan mewn gweithgareddau a chwrdd â phobl eraill y gaeaf hwn.// 

Crëwyd Mannau Clyd ar draws Castell-nedd Port Talbot gan gymunedau lleol ac ar eu cyfer, gan helpu pobl i gadw'n gynnes, cysylltu ag eraill a theimlo'n llai unig.// 

👉Dewch o hyd i'ch Man Clyd yma

👉Ceisiwch gymorth gyda chostau byw yma

🚙Buddsoddiad o £500,000 ar gyfer ffyrdd ar draws Castell-nedd Port Talbot 🚙
Mae £500,000 ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn atgyweiriadau priffyrdd, diogelwch ffyrdd a gwelliannau traffig ar draws Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y cyllid yn cefnogi gwelliannau ar draws y fwrdeistref sirol, o drwsio tyllau yn y ffyrdd i gynlluniau ailwynebu a diogelwch ffyrdd. Gwneir llawer o waith caled i wireddu'r gwelliannau hyn a helpu i sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu cynnal a'u cadw a gwneud teithiau'n fwy diogel. 

👉Darllenwch yr adroddiad llawn yma
🎄Crëwch atgofion Nadoligaidd hudolus ym Mharc Gwledig Margam 🎄

Gwnewch y Nadolig hwn yn un bythgofiadwy ym Mharc Gwledig Margam.

Dewch i Gastell Margam ar gyfer ein gweithdai Creu Coblyn, lle gall plant bach gwblhau eu hyfforddiant coblyn swyddogol gyda chrefftau, gemau, caneuon a digonedd o hwyl Nadoligaidd. Yna, mwynhewch un o draddodiadau mwyaf hudolus Margam: gwylio Siôn Corn yn bwydo ein ceirw anhygoel o Deras y Castell.

Castell go iawn. Ceirw anhygoel. Hwyl Nadoligaidd i'r teulu. Hud Nadoligaidd sydd yn unigryw i Margam.

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac mae dyddiadau penodol yn boblogaidd iawn, felly peidiwch â gadael eich cynlluniau Nadoligaidd tan y funud olaf. Dewch â'ch teulu ynghyd, dewiswch ddyddiad chrëwch atgofion y byddwch yn eu trysori ymhell wedi diwrnod y Nadolig.

👉Archebwch eich antur Nadoligaidd nawr: Darganfyddwch Hud y Nadolig yng Nghanolfan Gwledig Margam

📝 Mae'n syml i gofrestru ar gyfer fyCNPT 📝
Mewn llai na 2 funud bydd gennych gyfrif trigolion wedi'i bersonoli i chi ar gyfer rheoli'r holl wasanaethau rydych yn eu derbyn gan y cyngor. 
 
Cliciwch ar y ddolen isod i ddechrau arni. 
 
Graffigyn hyrwyddol ar gyfer ap fyCNPT sy'n dangos llaw yn dal ffôn clyfar gyda rhyngwyneb yr ap ar y sgrin, ynghyd â thestun sy'n annog preswylwyr i gofrestru ar gyfer mynediad at wasanaethau'r cyngor drwy wasgu botwm.
📅 Beth sydd ymlaen yn CnPT? 📅
Yn chwilio am bethau i’w gwneud gyda'r plant? Cerddoriaeth fyw? Cyflogaeth neu gyngor ar TG? Rhywle i ymarfer neu ddysgu sgil newydd? 
 
Ewch i’n tudalen ‘Digwyddiadau yn CnPT’ i ddod o hyd i’r holl bethau hyn a mwy!  
 
Gallwch hefyd ychwanegu’ch digwyddiadau eich hun at y rhestr. 
 
 
Graffigyn sy'n hyrwyddo gweithgareddau lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot, sy'n cynnwys lluniau o dorf mewn digwyddiad awyr agored, beicwyr ar lwybr defnydd a rennir a rhesi o seddi mewn theatr. Mae'r testun yn dweud: "What's On in NPT"

📢 Ymunwch â ni a dechreuwch yrfa y byddwch chi’n dwlu arni. 📢

I weld y swyddi gwag diweddaraf ac am ragor o wybodaeth, ewch i
 
Graffigyn recriwtio sy'n hyrwyddo'r cyfleoedd swyddi diweddaraf, sy'n cynnwys tri aelod o staff mewn fframiau crwn a botwm mawr "Apply Now"
Text